Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 2 Mai 2013 |
|
|||
Amser: |
10:30 - 12:00 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: AC(4)2013(6) |
|||||
|
|
|
|||
Yn bresennol: |
|
Rosemary Butler (Cadeirydd) Peter Black Angela Burns Sandy Mewies Rhodri Glyn Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (Swyddog) Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad (Swyddog) Non Gwilym (Swyddog) Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd (Swyddog) Carys Evans, Prif Ysgrifennydd y Comisiwn (Swyddog)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding, y Dirprwy Lywydd Mair Barnes, Cynghorwr Annibynnol
|
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad y Cadeirydd
1(i) Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod hwn;
1(ii) Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
1(iii) Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cytunwyd ar y cofnodion.
2. Gwaith ymgysylltu ac allgymorth – cynnwys pobl ifanc yng ngwaith y Cynulliad
Mae sicrhau bod plant a phobl ifanc yn deall ac yn chwarae rhan weithredol yng ngwaith y Cynulliad yn allweddol os yw'r Comisiwn am lwyddo i gyflawni ei nod o ymgysylltu â phobl Cymru.
Yn dilyn adolygiad diweddar, cafodd y Comisiynwyr adroddiad ar waith gwasanaeth addysg y Cynulliad. Teimlwyd bod y gwasanaeth yn cynnal ystod o weithgareddau o ansawdd uchel ar hyn o bryd. Er enghraifft, mae'n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc gyfrannu at faterion gerbron y Cynulliad drwy ymchwiliadau pwyllgor a'r gwaith allgymorth gydag ysgolion ac athrawon.
Ystyriwyd bod gweithgareddau a oedd yn galluogi plant a phobl ifanc i ddysgu am y Cynulliad a'i waith yn bwysig iawn, ac er y dylai hwn fod ar gael o hyd, dylai gael ei ddarparu mewn ffordd wahanol. Teimlai'r Comisiynwyr hefyd bod rhagor o bosibiliadau i ddatblygu cyfleoedd i bobl ifanc ymwneud yn uniongyrchol â busnes y Cynulliad.
Er mwyn datblygu'r gwaith hwn a chryfhau'r ystod o gyfleoedd i bobl ifanc ymgysylltu â'r Cynulliad, cytunodd y Comisiynwyr ar y canlynol:
Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd grŵp llywio yn cael ei sefydlu a'i waith fydd datblygu syniadau am ffyrdd newydd o ymgysylltu â phobl ifanc, er enghraifft drwy gymryd rhan o bell drwy ddefnyddio technoleg neu Gynulliad Ieuenctid. Roedd teimlad cryf mai pobl ifanc a fyddai wrth wraidd y gwaith hwn. Hwy a fyddai'n llunio'r gwaith ac yn nodi'r ffyrdd gorau o sicrhau bod ystod amrywiol o unigolion yn gallu cymryd rhan. Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygu dulliau arloesol a chreadigol o fynd i'r afael â'r gwaith.
Gofynnodd y Comisiynwyr am gael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am y gwaith hwn wrth iddo ddatblygu dros weddill y flwyddyn ariannol hon.
Diolchodd y Comisiynwyr i'r swyddogion am y gwaith a gyflawnwyd i lywio'r trafodaethau ac i’w cynorthwyo â'u penderfyniadau.
3. Unrhyw Fusnes Arall
Nid oedd materion eraill i’w trafod.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Mai 2013